Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifennwyd o gyfeiriad Israel ei hun. Ei pherthynas â Duw yw y drychfeddwl llywodraethol a luniodd yr hanes ac a gyfeiriodd law yr hanesydd. Ym mhriddfeini y dinasoedd hynny a guddiwyd gan falurion eu muriau, ac a gladdwyd dan y dywarchen las, gyda threigliad y canrifoedd, cawn lawer o'r un hanes o ochr y cenhedloedd a anrheithiasant Ganan.

Un o'r enwau mwyaf adnabyddus ynglyn â'r Dwyrain yn y cysylltiadau hyn yw enw Syr Austin Henry Layard, -bargyfreithiwr, a llys-genhadydd Prydain yng Nghaer Cystenyn (1877- 1880), yr hwn a ymdeithiodd ar lannau'r Tigris yn 1839. Sylwodd wrth grwydro ar domenau Nimrud yn Ninefeh, ac yn 1845 dechreuodd eu chwalu. Ar fyrr o dro daeth o hyd i olion pedwar plas a fu yn adeiladau gorwych oesoedd cyn hynny. Y mae pob peth a fernid o werth ynddynt yn yr Amgueddfa Brydeinig heddyw; a rhydd y darluniau ar gerrig a metel syniad clir i ni am arferion yr Assyriaid-yn grefyddol a milwrol. Gellir yn hawdd alw yn ol eu brwydrau a'u dull o drin arfau. Cydnebydd Layard ei ddyled i Claudius James Rich, yr hwn a ddygodd adref flaenffrwyth y