Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hynny wneud i'r oesoedd a fu fyw eilwaith.

George Frederick Grotefend (1775-1853) oedd y cyntaf i ymgeisio yn llwyddiannus i gyfieithu yr Assyriaeg. Ar ei ol ef daeth Syr Henry Rawlinson. Cafodd ef o hyd i ysgrifen faith ar graig yn Behistun ym Mhersia. Adroddiad ydoedd hon o weithredoedd y brenin Darius. (521-485 c.c.), a chan fod Assyria a Media o dan ei lywodraeth, cariai yr ysgrifen gyhoeddiad y teyrn o'i wrhydri yn ieithoedd y gwledydd hynny hefyd; eithr yr oedd y cyfan mewn llythyrenau cŷn- ffurfiol. Ar ol cael y wyddor, a chafodd gynhorthwy at hynny drwy y Zend a'r Sanscrit, dwy iaith berthynasol, allan o law daethpwyd o hyd i'r meddyliau fu yn methu mynegu eu hunain am lawer oes.

Drwy y Bersiaeg deallwyd yr Assyriaeg; a byth ar ar ol hynny, yr ydym wedi gallu deall y genedl hon a fu yn ddychryn i'r Iddew, ac yn offeryn i'w geryddu droion.

Dysg mawredd y gwledydd hyn, drwy eu cyrhaeddiadau uchel ac urddasol, ostyngeiddrwydd i lawer cenedl a duedda at ymffrost; a bydd y ffaith fod eu holl fawredd yn adfail heddyw, yn rhybudd bythol