Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i deyrnasoedd sydd yn chwennych dilyn eu llwybrau ac edmygu eu delfrydau.

Ar ol i Syr Henry Rawlinson (1810- 1895) ddarganfod allwedd i'r iaith, rhyddhaodd ei thafod; ac ni raid dysgu siarad i briddfaen, na cholofn, na charreg yn nyffrynnoedd y Tigris a'r Euphrates—y lle unwaith y bu Eden a'i pharadwys, a lle y bu i'r Arglwydd gadw "Daniel hynod yn ffau y llewod hen," a'r tri llanc yn ddianaf yng nghwmni'r pedwerydd yn y ffwrn. Fel Layard, bu Rawlinson hefyd. yn cynrychioli gorsedd ei wlad mewn llys tramor. Danfonwyd ef i Persia yn 1859.

Yr un modd y bu gyda cherrig yr Aifft a'u hysgrifluniau. Mud fuont nes darganfod y maen a elwir "Carreg Rosetta" gan un o swyddogion yr ymgyrch er budd gwyddoniaeth a ordeiniwyd gan Napoleon Bonaparte yn yr Aifft ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif. Boussard oedd enw'r gŵr a darawodd arni; ac yr oedd efe yn torri dan seiliau ty, ger amddiffynfa St. Julien, gerllaw Rosetta, yn aber yr afon Nilus. Darn o graig galed yw y garreg, a mesura dair troedfedd a naw modfedd o hyd. Y mae'n ddeng modfedd ar hugain o led, a'i thrwch sydd un fodfedd ar ddeg. Ar ymadawiad