Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flwyddyn 198 cyn Crist. Un o gadfridogion Alexander Fawr a sefydlodd y llinell frenhinol hon, a'r brenin hwn a esgynnodd i'r orsedd yn bum mlwydd oed, oedd y pumed i ddwyn yr un enw. Anerchir ef, gan yr offeiriaid, fel arglwydd y teyrn-goronau, a'r hwn a adferodd drefn yn yr Aifft—sydd yn rhagori ar ei wrthwynebwyr a wellhaodd fywyd dyn—wedi ei eni o'r duwiau Philopatores—i'r hwn y rhoddodd yr haul fuddugoliaeth, &c., &c. Adroddir ei gymwynasau i'r deml a'i gweinidogion; a gallem yn rhesymol gasglu fod byd y dynion hyn yn wyn iawn, o dan deyrnwialen Ptolemy Epiphanes. Ysgafnhaodd faich y dreth, fel y byddai i'r deiliaid gael digonedd; rhyddhaodd garcharorion; arhosai cyllideb y deml fel yr oedd—nid rhaid iddynt mwyach gymeryd taith yn flynyddol i Alexandria. Bu llifogydd mawrion yn y Nilus yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad a chododd y brenin wrthgloddiau i amddiffyn y wlad rhagddi. I'r perwyl yna y mae eu cymeradwyaeth; ac ordeiniwyd i hyn a llawer arall gael aros ar gof a chadw mewn carreg. Hwn oedd y defnydd mwyaf parhaol yn eu golwg hwy, ac o fewn cylch eu gwybodaeth. Gwyddai'r Hwn a greodd