Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bopeth am beth gwell. Ni fedrai dim guddio'r genadwri na'i dileu yno. Ar garreg yr ysgrifennwyd y deg gorchymyn; eithr dan gyfamod newydd cafwyd llech ynghalon dyn i dderbyn ei hysgrifen; ac erys y gyfraith yno

"Pan b'o creigiau'r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy'r farn a ddaw."

Cyfieithiwyd yr ysgrif mewn llythyrennau Groegaidd yn ebrwydd; a chan gredu mai cyfieithiad ydoedd, aethpwyd ati o ddifrif gan ysgolheigion y gwledydd i ddeall hen iaith yr Aifft. Dr. Thomas Young (1773—1829)—meddyg o fri, a gŵr a ddarganfu ddeddf bwysig ynglyn â'n gwybodaeth am oleuni, oedd un o'r rhai cyntaf a geisiodd ddeall yr ysgrifau. Dilynwyd ef gan Jean Francois Champollion (1790—1832). Efe biau'r clod am ddarganfod y pum llythyren ar hugain a grybwyllir gan Plutarch, yn yr hen Aiffteg hon. O gam i gam, o lythyren i lythyren; o air i air, ac o air i ddrych feddwl y symudwyd ymlaen, a darganfuwyd mai Coptaidd oedd yr iaith,—iaith oedd yn llefaredig hyd yr unfed ganrif ar bymtheg,—yn ymwisgo mewn llythyrennau. dieithr. Agorwyd trysorau gwybodaeth