hen wlad Pharaoh, drwy lwyddiant fel hyn; ac nid oes yr un golofn yn cael ei hadgyfodi o adfeilion mawredd y dyddiau gynt, yn fud bellach. Wrth edrych ar y darn du o faen yn yr Amgueddfa nis gallwn lai na synnu bob tro, fod byd mor fawr, a gwybodaeth mor lwyr, wedi eu darganfod drwyddi.
Ym meusydd Soan, lle y bu Moses ac Aaron yn gwneuthur rhyfeddodau gerbron Pharaoh (Ps. lxxviii. 43), darganfuwyd carreg arall ac arni ysgrif mewn tair iaith. Ordeinio dwyfoliad merch Ptolemy Euergetes (247-222 c.c.) yw ei neges hi, ac y mae copi o honi yn yr Amgueddfa yn Llundain.
Y maen arall sydd yn adnabyddus iawn yw y garreg o wlad Moab. Yn yr adran Iddewig yn y Louvre, ym Mharis, y mae hon. Hanes gwrthryfel Mesa brenin Moab sydd arni. Yn y drydedd bennod o ail lyfr y Brenhinoedd dywedir iddo wrthryfela yn erbyn Israel ar ol marw Ahab. Arferai dalu i frenin Israel gan mil o wyn a chan mil o hyrddod gwlanog fel treth flynyddol; ac yr oeddent. wedi gwneud hynny yn ddiau oddiar ddyddiau Dafydd (2 Samuel viii. 2); ond yn awr, pan oedd cyfyngder yn dal Ísrael