carreg. Nid oes enw brenin na blwyddyn arni, a bernir yn dra phriodol i'w chofnodiad gael ei dorri gan y bobl fu yn cloddio'r gamlas. Cyfieithir yr argraff fel hyn,—
"(Wele) y cloddiad. Yn awr, dyma hanes y cloddiad. Pan oedd y cloddwyr eto yn dyrchafu eu pig—pob un i gyfeiriad ei gymydog, a phan oedd eto dri chutydd (i'w cloddio fe glywyd) llais dyn yn galw ar ei gymydog. . . . rhedodd y dyfroedd o'r ffynnon i'r llyn drwy bellder o ddeuddeg can cufydd. Un cufydd oedd uchder y graig uwchben y cloddwyr."
Yr oeddynt wedi dechreu torri bob pen i'r twnel a chyfarfuant, yn ol Syr Charles Warren, tua 900 o droedfeddi o lan llyn Siloam. Y mae'n bur amlwg oddiwrth y modd y cloddiwyd y twnel hwn nad oedd gwybodaeth yr Iddewon o'r gelfyddyd of fesur a chynllunio ond ychydig. Drwy ddamwain y gallai'r gweithwyr o'r ddau pen ddod i gyfarfod â'u gilydd, ac y mae'n amlwg mai digwydd dod i swn eu gilydd wnaeth y rhai a dorrent y graig. Er mwyn dangos syniad y gwledydd cylchynol am frenhinoedd Israel a Judah nis gallwn daro ar well engraifft na'r hyn a geir ar big adail ddu Salmaneser II. (860—825 c.c.). Bu'r gŵr hwn mewn un ymgyrch ar ddeg ar hugain; ac ar y garreg