Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ddarganfuwyd yn Calah—Nimrud cawn ryw gymaint o hanes ei fuddugoliaethau. Ceir darlun o Jehu, fab Omri, yn talu teyrnged i frenin Assyria. Yn awr, mab i Jehosaphat oedd y gyrrwr hwn; eithr eisteddai ar orsedd Israel lle bu Omri (930 c.c.), y rhyfelwr mawr a barodd fraw ym mynwes ei gymydogion; ac oherwydd hynny ychwanegai Salmaneser at ei glod wrth dderbyn treth gan olynydd i wr mor gadarn a Jehu wrth ei ddynodi fel mab Omri. Wedi gweled yr Assyriaid yn gorchfygu y cenhedloedd a drigent yn ei ymyl, ymgyfamododd Jehu a Salmaneser II.; a golygai'r cyfamod rwymedigaeth ar frenin Israel y mae'n amlwg, canys dy— wed y big—adail,—

"Gwrthrychau o arian ac aur; barrau o ar— ian, barrau o aur. . . . . ffon i law brenin. Pelydr gwaywffyn. Hyn a dderbyniais."

Yn 1871, darganfuwyd carreg gan M. Clermont—Ganneau yn Jerusalem yn dwyn, mewn Groeg, rybudd i ddieithriaid a ymwelent â'r deml. Gwaherddir pobl o genedl arall, tramorwyr, rhag myned y tu mewn i leoedd mwyaf cysegredig yr adeilad (i'r gysgodlen a'r caeadle o gwmpas y cysegr). Goddiweddir yr hwn a dros-