Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edda yn wyneb y rhybudd hwn â marwolaeth; ac ochr yn ochr â hwn, dyddorol darllen yr hyn a ddigwyddodd i Paul yn ol Actau xxi. 15—40. Disgynnodd llygad yr Arglwydd Iesu a'i ddisgyblion lawer gwaith ar y maen hwn. Dywed y maen,— "Na ddeued yr un tramorwr i'r tu fewn ir llen a'r caeadle sydd yn amgylchynnu'r cysegr." Pwy bynnag fydd yn euog o hyn cospir ef trwy farwolaeth.

Cymerwn dri chyfeiriad eto cyn dirwyn y bennod hon i ben. Yn nheml Apollo yn Delphi, ar fryn Parnassus, yn Groeg, gwelir nifer liosog o gofnodion o ryddhad a roddwyd i gaethweision a chaeth forwynion; a cheir llawer o rai tebyg mewn mannau ereill. Wedi arbed o hono ychydig arian, ac yntau yn awyddus am ryddid, dygai'r caethwas hwynt i deml ei dduw; a phan fyddai'r swm trysoredig yno yn ddigonol, ar ddydd arbennig deuai'r perchennog a'r caethwas i'r deml. Gwerthid ef i'r duw a addolid yno, a derbyniai'r perchennog ei werth neu o leiaf ei bris gan y duw, o'r arian a drysorid o bryd i bryd gan y caethwas. Drwy'r ymdrafodaeth grefyddol hon ai'r caethwas yn eiddo'r duw a addolid yno.