Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni fwriadwyd i ddyn fod yn feistr—gwas ydyw i fod. Dychmygodd am fod yn feistr unwaith, ac nid yw'r dymuniad wedi darfod; ond methiant fu pob ymgais, canys dawn i wasanaethu a roddwyd yn waddol iddo ar fore ei greadigaeth. Os na fyn wasanaethu y da cipir ef gan y drwg i'w wasanaeth yn ebrwydd; ac os dewisa'r da a'r dwyfol—gwas fydd efe yno a gwas fydd byth. Yr oedd yr arferiad hon of berthynas i ryddhad y caethion yn adnabyddus i'r apostol Paul, ac y mae yn ddiau yn ei feddwl pan yn crybwyll am ryddid yr Efengyl trwy ras i bechadur. Caethion neu weision yw dynion pan adelia'r iachawdwriaeth atynt (Rhuf. vi. 17); prynwyd hwynt (1 Cor. vi. 20); rhyddhawyd hwynt (Gal. v. 1); ond wedi hyn caethion i Dduw ydynt (Rhuf. vi. 22). Rhydd Deissman gopi o ysgrif a gerfiwyd yn 200—199 c.c. Dyma hi,—

"Prynodd Apollo y Pythiad oddiwrth Sosibius o Amphissa, er mwyn ei rhyddhau, gaethes, enw yr hon yw Nicaea, Rufeines o genedl à phris o dair mina a hanner mina. Yr hwn a'i gwerthodd yn flaenorol yn ol y gyfraith oedd Eumastus o Amphissa. Y pris a dderbyniodd. Y pryniad, modd bynnag, a draddododd Nicaea i Apollo er mwyn rhyddid."