Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymysg y cerrig y cyfeiriwn atynt rhaid dweyd gair am y big-adail a adnabyddir fel "Nodwydd Cleopatra," a saif heddyw ar rodfa afon Llundain. Thothmes III., un o'r pedwar teyrn a ffurfient y ddeunawfed frenhin-lin (1587—1322 c.c.), gŵr a orchfygodd y byd o'r Nilus i'r Euphrates, a than deyrnasiad yr hwn y cyrhaeddodd llanw llwyddiant yr Aifft ei bwynt uchaf, a'i hadeiladodd. Cododd bedair colofn, o'r rhai y mae hon yn un, yn Heliopolis, neu On, un o drefydd gwlad Gosen. Yr oedd athrofa i ddysgu doethineb yr Aifftiaid yn y lle hwn, a gysegrwyd i'r haul. Tair blynedd ar hugain cyn geni'r Gwaredwr symudwyd y nodwydd hon ac un arall i Alexandria—lle yr oeddynt i harddu y fynedfa at blas yr ymherawdwr —mewn saith mlynedd ar ol marw Cleopatra; ac yno y buont am bymtheg canrif. Yn araf iawn deuai y môr i mewn. Aeth dan ei seiliau a syrthiodd y nodwydd i'r llawr. Bu yno ar ei hyd, am dair canrif, a'r graean yn guddio rhyw gymaint o honi o flwyddyn i flwyddyn; a'i chwaer a'i phen tua'r nefoedd yn ei gwylio. Penderfynodd y milwyr a orchfygasant y Ffrancod yn 1801 ei dwyn i Brydain fel cofeb o'u buddugoliaeth: ond parodd ei