Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Babylon gan Elam, a dygwyd y meini hyn o Babylon i Susa. Cloddiwyd yr adfeilion gan Williams a Loftus yn 1851-1852, ac yn y blynyddoedd diweddaf gan Dieulafoy a J. de Morgan. Yr olaf a enwyd a gododd y darnau o'r llwch. Wedi eu gosod ar eu gilydd mesurent dros saith troedfedd o uchder. Ar y wyneb y mae darlun o'r teyrn yn derbyn y cyfreithiau o law yr haul dduw Cynhwysa'r ysgrif ar y meini hyn ddeddfau y brenin. Hammurabi mewn wyth mil o eiriau. Yr oedd y teyrn hwn y chweched yn y llinnell frenhinol gyntaf. Nid y brenhinoedd hyn oedd y rhai cyntaf i lywodraethu Babylon; ond dyma'r linnell gyntaf i eistedd ar orsedd. Credir mai yr Amraphel a enwir yn Gen. xiv. 1 yw Hammurabi. Efe oedd brenin Sinar, a hen enw ar wlad Babylonia yw Sinar. Esgynnodd i'r orsedd yn 2242 c.c. Dysgodd Abram wers iddo ef a'i gyfeillion pan ymrannodd yn eu herbyn liw nos ac a'u tarawodd. Dygodd Lot o'u crafangau, ac enillodd yn ol annhraeth Sodom. Pair darlleniad o'i ordeiniadau syndod mawr pan gofiom mor fore oedd ei ddydd; a gall pwy bynnag sydd o fewn cyrraedd i'r gyfrol olaf o Eiriadur Beibl-