Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aidd Dr. Hastings, neu lyfryn bychan y Proffeswr C. H. W. Johns, gael mwynhad. mawr iddo'i hun wrth fynd drwyddynt. Y mae anghyfiawnder ac anfoes yn der- byn condemniad diarbed yn neddfau Hammurabi. Rhagymadrodda drwy ddangos nifer y bendithion a ddaeth drwyddo i Mesopotamia. Nid yw cwestiynau meddygon yngwyneb deddfau gwlad yn beth newydd.

"Os yw'r meddyg wedi trin boneddwr am glwyf peryglus â fflaim bres ac wedi gwellhau y dyn, neu wedi symud pilen oddiar lygad boneddwr â filaim bres, ac wedi gwellhau llygad y boneddwr, gall gymeryd deg sicl o arian. Os yw efe (y claf) yn fab i ddyn tlawd (neu werinwr) gall gymeryd pum sicl o arian i'r meddyg. Os yw efe yn was i foneddwr, meistr y gwas a rydd i'r meddyg ddau sicl o arian."

Os parai y driniaeth law feddygol â fflaim bres farwolaeth y claf neu golled o'i lygad, torrid ymaith ddwylaw'r meddyg. Os bu yn achos o farwolaeth caethwas trwy ddefnyddio ei offeryn miniog rhaid iddo dalu caethwas am gaethwas, ac os cyll ei lygad fel effaith y driniaeth o dan law'r meddyg, rhaid talu arian i'w berchennog hyd hanner gwerth y caethwas. Rhoddir cyflog y gweithiwr, y saer, y teil-