Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iwr, yr adeiladydd, &c. Dyddorol iawn sylwi ar y gwahaniaeth rhyngddi a deddf Moses. Y peth amlycaf yw'r gwahaniaeth geir rhwng dyn a dyn o ran eu safle. Y mae tua 282 o ddeddfau, ac y maent yn fanwl eithafol. Gorffennwn. ein cyfeiriad at y ddeddf-res hon gyda dau. ddyfyniad, un o berthynas i'r corlannau, ac un ynglyn â rheolaeth llongau,—

"Os mewn corlan, y bu i ergyd Duw neu lew ladd, bydd i'r bugail ymlanhau ger bron Duw a bydd raid i berchen y gorlan wynebu'r ddamwain i'r gorlan."

"Os tarawodd llong sydd yn symud ymlaen long wrth angor, ac a'i suddodd, bydd i berchen y llong a suddwyd adrifo gerbron Duw pa beth bynnag a gollodd yn ei long."

Yna yr oedd yn rhaid i'r hwn oedd biau'r llong a'i tarawodd ac a'i suddodd roddi iddo long arall, ynghyd a phob dim a gollodd

Y rhai hyn yw ychydig o'r cerrig sydd yn adrodd hanes tra dyddorol y dyddiau gynt blynyddoedd yr hen oesoedd; ac fe ddiweddwn hyn' o gyfeiriad atynt drwy adrodd hanes y golofnig o wenithfaen llwyd a gafwyd yn un o adeiladau Pharaoh Amenôthês III.—un o'r brenhinoedd elwid yn hereticaidd, am iddynt ymadael â duwiau eu tadau, a deyrnas-