Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gylchiad yn hanes Israel y cyfeirir, amrywia'r awdurdodau gryn lawer. Yn ei ymdriniaeth ar ysgrif y golofn dywed Maspero fod ynddi esiampl o ormodiaith bardd y llys a gyfansoddodd yr emyn of glod, gan faint ei awydd i dalu gwarogaeth i'w benadur. A ydyw yr hyn a geir yma yn cynnwys yr hyn a ddewisid i'r Aifftiaid gredu am yr Israel a ddiangasant yn llaw'r Arglwydd, neu a oes esboniad arall ar y geiriau? Y mae'n amlwg nad oes dim terfynol ar y cwestiwn hyd yn awr, a'r unig beth pendant y cydsynnir arno yw fod enw'r bobl a waredwyd mor rhyfedd gan Arglwydd yr holl ddaear ar golofn a godwyd dan deyrnasiad y brenin a galedodd ei galon ac a gurwyd mor drwm.

Y mae pob blwyddyn yn gweled adgyfodiad y gorffennol; ac y mae'r Amgueddfeydd yn llawn o bob math ar drysorau sydd yn llanw rhyw wagle mewn hanes. Daw pethau newyddion i'r golwg o flwyddyn i flwyddyn sydd yn gorfodi haneswyr ac esbonwyr i newid eu barn, yn ogystal a chadarnhau eu syniadau blaenorol.