III. YSGRIFAU MEWN CLAI.
GANRIFOEDD cyn i hyd yn oed y Chineaid ddyfeisio papur i ysgrifennu arno, arferwyd llawer o ddefnyddiau heblaw cerrig i dderbyn meddwl a chario neges dynion trwy ysgrifen. Cawn sylwi yn y penodau a ddilynant ar y defnyddiau o groen, o bapurfrwyn, ac o fetel; ac yn awr, taflwn olwg dros rai o'r llechau clai fu unwaith mewn bri mawr.
Yng ngaeaf 1887, yr oedd nifer o amaethwyr Aifftaidd yn chwilio am flawr (nitre) i achlesu eu tir, a phalasant ran o domen adfeilion hen adeilad. Ynddi tarawsant ar lyfrgell frenhinol o dri chant o lechau. Cynhwysant mewn argraff tua hanner maint pum llyfr Moses. Tell El-Amarna yw enw mangre'r darganfyddiad; a bu'r lle unwaith yn brif ddinas yr Aifft. Saif ar lan y Nilus, tua dau cant of filltiroedd uwchlaw Cairo a thua deucant islaw Thebes. Y mae gogoniant y lle wedi ymadael ers oesoedd; ac y mae'r ddinas fu'n adseinio gan swn carnau'r meirch a sain udgyrn llys yr Aifft yn awr yn ddistaw fel y bedd dan y malurion.