Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olynydd, a ddygai'r un enw, ar yr orsedd o 1379 i 1362 cyn Crist.

Yn Thebes yr oedd cartref llys yr Aifft am ganrifoedd, ac yno y bu prif ddinas crefydd a gwleidyddiaeth hyd ddyddiau Amenôthês IV. Wrth chwilio am resymau digonol dros i deyrnas yr Aifft symud ei gorsedd o Thebes ceir llawer o amrywiaeth barn ymhlith yr awdurdodau. Dywed rhai fod Amenôthês III. wedi priodi gwraig o deulu brenhinol y Mitanni, ac i'w olynydd yntau briodi merch Dusratta, brenin yr un bobl. Yr oedd yr Aifft wedi gorchfygu Syria a Phalestina i ryw fesur; ac yr oedd llawer o bobl o'r gwehelyth Semitaidd, o'r rhai yr hanna yr Iddew a'r Arab, wedi dringo i sefyllfaoedd o bwys yn llywodraeth yr Aifft. Rhwng dylanwad y bobl hyn, a dylanwad y gwragedd o'r Mitanni, penderfynodd Amenôthês IV. gymeryd crefydd y wraig o'r Mitanni, gan gryfed y teimlad o blaid honno oedd yn ei amgylchynu. Dywed Maspero mai merch o'r Aifft oedd priod Amenôthês III., ac nad oedd yn perthyn i dylwyth y brenin, eithr mai cariad oedd sail yr undeb priodasol ac nid defod ac arfer. Awgryma efe mai amharodrwydd offeiriaid Thebes i gydnabod