Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae dynion felly. Clywant fyddin yn symud yn eu herbyn pan na fydd ond dail yn ysgwyd gan awel, a phan y bydd brân yn crawcian neu ddyllhuan yn wban cryn eu calon, a chlywir eu inglais am y cred— ant fod lluoedd y tywyllwch ar eu hynt yn eu ceisio.

Cwyd Ribadda ei galon pan ddenfyn y brenin gynhorthwy iddo. Yn un o'i lythyrau, wedi desgrifio'r modd yr ymladdwyd. am ddinas Smyrna, dywed ei fod yn aros fel aderyn ynghanol y rhwyd. Y mae ei ostyngeiddrwydd yn eithafol. Cyfeirial ato ei hun fel llwch traed y brenin. Ystol droed wrth draed y brenin ei arglwydd ydyw. Abdasherah, gŵr a elwir ganddo yn gi, yw ei brif wrthwynebydd; ac y mae amryw o bobl bwysig glan y môr wedi eu tynnu i mewn i'r cweryl. Un dydd yr oedd ei helbul yn eithafol. Dyma fel yr ysgrifenna,—

"Ai ni fydd i'm harglwydd wrando neges ei was? Dynion o ddinas Gebal a'm plentyn a'm gwraig yr hon a gerais, a gipiwyd . . . anfon di ddynion y gwarchodlu, dynion rhyfel, i'th was.

Ysgrifenna Amenôthês III at Calimmasin, brenin Babilon. Derbyniodd y