Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pharaoh lythyr neu lys-gennad oddiwrtho. ac y mae yn ateb fel a ganlyn,—

"Dymuni ar un i ddanfon ei ferch i fod yn wraig i ti; ond fy chwaer yr hon a roddodd fy nhad sydd gyda thi; ac nid oes neb a wel a ydyw yn fyw nen a ydyw yn farw."

Ac a yn y blaen i son am y gwaddol. Cyfrifid priodas yn gyfystyr a chyfamod; a ffordd effeithiol a hawdd o sicrhau cydymdeimlad a chynhorthwy brenhiniaeth oedd ennill llaw, beth bynnag am galon, un of ferched y penadur.

Ceir awgrym yn y llythyr am y pellter oedd rhwng priod y brenin a'i theulu unwaith yr oedd drws ty y gwragedd yn ei chartref newydd wedi cau arni. Hawdd y gellid symud y ferch a briodwyd, drwy lofruddiaeth neu ryw ddull arall, ac mor fanwl y gwarchodwyd drostynt fel nad oedd modd gwybod i sicrwydd ddim o'u helynt.

Gresyn fod yr ysgrifenwyr hyn yn gwastraffu cymaint ar ofod ac amser drwy y moesgarwch eithafol sydd yn eu nodweddu pan gyfarchant eu brenin. Gwell fuasai gennym gael ychydig o bethau mwy dyddorol. Treulia mwy nag un o honynt hefyd amser i brotestio yn erbyn cyhudd-