Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadau am anffyddlondeb i'r orsedd a ddygwyd yn eu herbyn; ond megis drwy y dellt ceir llawer o oleuni ar arferion ac ar hanes cyfnodau nad oes ond ychydig iawn o'u holion yn aros.

Darganfu y Proff, R. A. S. Macalister rai llechau clai yn Gezer—dinas adfeiliedig ar y ffordd o'r môr i Jerusalem. Bu hon ym mhob cyfnod o hanes gwlad Canan yn bwysig. Yng nghyfnod trigolion yr ogofeydd, yr oedd Gezer mewn bri, oherwydd yr oedd y graig yno yn feddal, ac o ganlyniad yn hawdd i'w thrin, fel pan yr oedd angen ar ben teulu i ychwanegu ystafell at ei dyddyn, gallasai wneud hynny heb lawer o lafur. Maluriai'r graig dan ergyd ei forthwyl o garreg neu o bren yn hawdd iawn. Yn yr ymyl yr oedd digonedd o borfa i'w anifeiliaid a chyflawnder o ysglyfaeth i'w fwa, ac yr oedd yno nifer o ffynhonnau a dorrent ei syched bob amser. O ganlyniad bu'r ddinas yn bwysig iawn ar hyd yr oesau. Bu'r Aifft a'i gafael arni, am y gallai o'i thyrau wylied un o'r ffyrdd o lan y Nilus i Mesopotamia, dros yr hon y tramwyai y masnachwyr gan gludo pethau gwerthfawr y naill wlad i'r llall. Rhoddwyd Gezer yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon, gan