Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pharaoh; a dywedir i Solomon ei hadeiladu, gan awgrymu ddarfod i frenin yr Aifft ei dinistrio wrth ei gorchfygu. Y mae Gezer fel cyfrol ar wareiddiad Palestina. Wrth gloddio i'w malurion troir dalen ar ol dalen o hanes y wlad; eithr nid ar hyd y llwybr hwn y bwriadem gerdded wrth gychwyn.

Ond cyn tewi ar hyn buddiol yw i mi ddywedyd fod olion preswyliad trigolion. hynach na'r Cananeaid a'r Amoriaid yng gwlad yr addewid. Perthynent, y mae'n amlwg oddiwrth eu hofferynau, i oes y meini. Nid oeddynt o deulu Sem, oherwydd nid yw asgwrn eu pennau o ran ffurf yn debyg i eiddo yr Arab a'r Iddew. Llosgent gyrff eu meirw, ac y mae hyn eto yn eu gwahaniaethu oddiwrth y Semitiaid. Trigent yn y wlad o leiaf dair mil o flynyddoedd cyn Crist. Son yr oeddem am y llechau.

Cafwyd rhai o honynt yn y lle; a pherthynant i'r cyfnod Assyriaidd— wedi cwympo o deyrnas Israel. Ar un y mae gweithred gyfreithiol yn cofnodi arwerthiant eiddo. Ceir enw caethwas yn gyntaf. Y mae efe ymysg y dodrefn sydd yn newid dwylaw, a sicrheir y prynwyr y bydd y caethion yn rhydd oddi-