Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth anhwylderau corfforol am gyfnod. Llawnodir y weithred gan y prynwr a'r gwerthwr dan seliau, a dilyna enwau deuddeg o dystion, o'r rhai y mae Huruasi, y maer neu'r pennaeth, yn un. Daethpwyd o hyd i un arall o gymeriad cyfreithiol. Y mae gŵr o'r enw Nethaniah-Hebrewr of genedl, y mae'n sicr,-yn gwerthu cae; ac ar y llech y mae'r cyfamod yn ysgrifenedig. Yn un o'r dyfrffosydd cafwyd un ac arni ddarlun o fwystfil yn bwyta dyn.

Amser a balla i ni sylwi ar lyfrgell Assurbanipal, a gyfodwyd o'r murddyn, fel y cyfeiriwyd mewn ysgrif flaenorol, gan Layard yn Ninifeh; ac y mae'n rhaid bodloni ar yn unig enwi y darganfyddiadau a wnaed gan y cwmni a ddanfonwyd allan gan Brifysgol Pennsylvania i Nippur, dinas hynaf Babilonia, yn 1900. Yn y ddinas ar ddydd ei mawredd yr oedd teml gysegredig i addoliad un neu fwy o dduwiau, ac yn y deml yr oedd llyfrgell a gynhwysai tuag ugain mil o lechau clai. Arnynt y mae pob math o lenyddiaeth. Ceir ysgrifau ar rif a mesur, seryddiaeth, meddyginiaeth, arwriaeth, ac emynyddiaeth. Dyma hen wyddorau'r byd. Creadur amser a lle ydyw dyn; ac y mae llinyn mesur a chloriannau yn ei law er