Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn hanner dyn ac yn hanner bwystfil.

Clywodd Gilgames am y greadigaeth hon, a goddiweddwyd ef gan ddychryn. Sut y medrai ddiarfogi neu ddinistrio'r creadur oedd ei gwestiwn yn awr. Taflodd ei linyn drosto, a thybiodd, gallem. feddwl, nad oedd ei fraich ef yn ddigon i wynebu'r gelyn newydd; a chymerodd y ffordd y mae'r byd yn chwannog i'w mabwysiadu dan amgylchiadau tebyg. Ceisiodd swyno'r creadur a gwneud cyfaill o hono. Llwyddodd. Aethant yn gyfeillion, ac fel cyfeillion gwnaethant orchestwaith.

Teimlodd Istar (Astaroth), gallem gasglu, fod perygl, a lladdodd y creadur a grewyd i waredu Erech, a chawn Gilgames mewn enbydrwydd eilwaith. Yn ei fraw chwiliodd am anfarwoldeb; ac er mwyn cael y peth dymunol hwnnw, rhaid iddo ddod o hyd i un o'i hynafiaid—gwr o'r enw Sit-napistim, a wyddai gyfrinach y bywyd diddarfod. Taith arw gafodd Gilgames. Yr oedd ei rhwystrau a'i pheryglon yn aml fel taith pererin arall; ond fel y digwydda i bob taith daeth y diwedd, a chafodd ei hun ym mro lonydd cartref ei hynafiad, ac edrydd Sit-