Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

napistim yr hanes am y modd y meddiannodd efe anfarwoldeb.

Dywed fod y byd yn ddrwg a llygredig; a phenderfynodd un o'r duwiau ei foddi; ond yr oedd gan Sit-napistim gyfaill ymhlith y duwiau, a pharodd y duw hwn iddo wneud arch i ddiogelu ei hun. A hi yn barod, aeth ef a'i deulu a'i eiddo iddi. Gwlawiodd am chwe niwrnod, a chuddiwyd y mynyddoedd mwyaf gan y llifogydd. Ataliwyd y cawodydd ar y seithfed dydd, a gorffwysodd yr arch ar fynydd, ac anfonodd Sit-napistim, o ddiddosrwydd ei dŷ, golomen allan i chwilio am le i'w throed, ond dychwelodd. Yna danfonodd wennol, a daeth hithau'n ol. Yn olaf, gollyngodd gigfran; ac er iddi ddychwelyd i grawcian o gwmpas yr arch, ni ddaeth i mewn drwy'r ffenestr.

Ar ol i'r dŵr dreio, aethant allan, ac fel Noah aberthasant; a derbyniodd Sit-napistim y ddawn o anfarwoldeb gan y duw barodd y diluw. Yna cyfarwydda Gilgames sut i gael y peth yn feddiant iddo ei hun.[1]

Bernir fod y llechau hyn wedi eu hysgrifennu o 1350 i 1450 cyn Crist. De-

  1. Gweler llyfr Mr. Handcock.