Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honglir cynnwys y llechau gan ysgolheigion profedig, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf ysgubir llwch yr oesoedd oddiar lawer cofnodiad pwysig, ac y mae pob un a ddaw yn dystiolaeth adnewyddol i'r gwirionedd fod y Gwir Oleuni yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd. Nis gallasai y genedl etholedig fwynhau cyfrinach yr hwn oedd yn Dduw i'w Habraham, i'w Hisaac a'i Jacob, heb i'r barbariad a'r pagan oedd yn gymdogion iddynt fwynhau rhyw gymaint o lewyrch y goleuni hefyd.

Yn yr Amgueddfa Brydeinig cawn. Epistol oddiwrth Hammurabi at un a ddwg yr enw Sin-Iddinam. Rhoddir gorchymyn iddo gan y deddfroddwr. Y mae capteniaid llongau neillduol i'w danfon o Larsam fel ag i gyrraedd Babilon ar y degfed dydd ar hugain o fis Adar. Y mae y bobl sydd yn byw ar lan camlas Damanum i'w lanhau yn ystod y mis. Ysgrifenna Addu Daian, "Edrychaf yma ac edrychaf draw, ac nid oes goleuni; ond edrychaf at y brenin, fy Arglwydd, ac, wele, y mae goleuni; ac er i briddfeini gael eu hysgwyd o'r mur eto, nid. ysgydwir mo honof fi o dan draed fy Arglwydd." Erfynir gan y brenin Alashiya