Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar i Amenôthês ddanfon arian iddo, ac enfyn bum cant o ddarnau o bres yn anrheg. Bu farw un o drigolion gwlad y brenin yn yr Aifft, a dymuna ar Pharaoh gasglu eiddo'r trancedig at eu gilydd a'u danfon iddo ef. Cawn hefyd lawer o amlenni o glai ac ysgrif arnynt yn y casgliad. o'r llechau clai sydd yn yr Amgueddfa.

Cafwyd llythyrau yn Lachis. Hyderwn y ceir llawer o honynt eto ym Mhalestina. Dyma'r defnydd, ynghyda charreg, sydd. wedi gallu dal heb heneiddio na darfod yn hinsawdd gwlad yr addewid.