Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddynt. Un felly a welodd Ezeciel yn y llaw a anfonwyd ato. "Ac wele ynddi blyg llyfr. Ac efe a'i datblygodd o'm blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn" (ii, 10). Yn y Datguddiad, gwelodd Ioan un tebyg yn llaw'r hwn. a eisteddai ar yr orseddfainc. Yn ysgrifenedig ynddo yr oedd rhaglen holl oesoedd y ddaear, ac yr oedd hwnnw wedi ei ysgrifennu oddifewn ac oddiallan (v. 1).

Yr oedd hinsawdd sech yn ffafriol i barhad y papur-frwyn. Y mae yr Aifft, yn hyn, yn rhagori ar Ganan, ac ni cheir ysgrifau ar y defnydd a gadwyd mor hynod yn sychder hen wlad y caethiwed ym Mhalestina. Yn Oxyrhynchus, lle bynnag y gallai dwfr y Nilus gyrhaeddyd, yr oedd yr ysgrifau wedi eu difa gan wlybaniaeth. Yn y flwyddyn 1752, yn ninas Herculaneum, un o'r dinasoedd a gladdwyd dan ludw y mynydd tanllyd Vesuvius yn y flwyddyn 79, darganfuwyd mewn ystafell fechan a fu yn ddiau yn fyfyrgell, nifer o weithiau athronyddol yr Epicureaid. Nid hinsawdd yr Eidal fu garediced ag amddiffyn y casgliad hwn; eithr y nwyon a defnyddiau fferyllol ereill a ruthrasant i'r ystafell i ddinistrio ac i gadw yr un pryd. Ni wyddom am un dar-