Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganfyddiad tebyg mor bell i gyfeiriad. machlud haul. Yn nhomennau ysbwriel trefydd yr Aifft, o dan adfeilion, o gwmpas cyrff dynion ac anifeiliaid cysegredig fel crocodeiliaid ac adar a bêr eneiniwyd, y ceir yr ysgrif-rolau amlaf. Y mae Ilawer o honynt mewn Aiffteg, ond ar ol i Alexander Fawr (356-323 c.c.) orchfygu. Persia, ac i'r Aifft ddyfod o dan ei lywodraeth, bu dylanwad gwareiddiad a diwylliant ei deyrnas yn drwm ar y wlad, a daeth yr iaith Roeg yn gyfrwng dysgeidiaeth a masnach y byd a orchfygodd; ac yn honno y mae'r ysgrifau a gynyrchwyd ar ol dyddiau y teyrn dysgedig hwn.

Wedi manylu o honom ar y defnydd fu mewn cymaint o fri i ysgrifennu arno, a chymeryd cipdrem ar yr iaith yr ysgrifennwyd ynddi, ein cwestiwn nesaf yw, pa beth a geir yn ysgrifenedig ar y papur-frwyn?

Darganfuwyd darnau byrion o'r Hen Destament a'r Newydd; ond y maent mor fyrr fel nad ydynt o fawr gwasanaeth i astudiaeth ysgrythyrol. Dyddorol iawn oedd llechres o eiddo pentrefwyr Ibion, Fayum, a ddaeth i law'r ymchwilydd dro yn ol. Pentref Cristionogol oedd hwn, a pherthyn yr ysgrif i'r bumed neu'r