Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chweched ganrif. Cafwyd llawer o adroddiadau am gwynion a ddygwyd gan yr Iddewon at yr ymherawdwyr Claudius a Trajan. Yn y bumed ganrif yr cedd Apion yn esgob Syené ac Elephantiné; a phan erlidiwyd ef danfonodd am amddiffyniad at yr orsedd. Yr oedd Theodosius II. (401-450 o.c.) yn llywodraethu y rhan orllewinol o'r ymherodraeth Rufeinig, a Valentinian III. (420-455 o.c.) yn feistr ar yr ochr ddwyreiniol iddi; a chafwyd atebiad y ddau benadur i'r esgob, dro yn ol, ar y rholiau Aifftaidd. Ymysg y pethau sydd o werth amhrisiadwy er cynorthwyo esboniadaeth Feiblaidd, y mae ysgrifau a wnaed yn oes yr apostolion a chyfnod cyfieithiad y deg a thrigain o'r Hen Destament. Cawn ynddynt oleuni ar arferion dwyreiniol, ar briod-ddulliau Groeg y werin, ac ar eiriau, Yn 1893, darganfuwyd ysgrif ar bapur-frwyn yn Sakkara, ar yr hon yr oedd yn ysgrifenedig gyfrifon dyddiedig mor bell yn ol a than deyrnasiad Asa (3580-3536 c.c.); ac hyd nes i'r memrwn gael ei ystyried yn rhagorach defnydd parhaodd brwyn y Nilus mewn bri. Ynghanol afon yr Aifft, ychydig islaw'r rhaeadr cyntaf, saif ynys fechan o'r