Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw Elephantiné. Ar hyn o bryd y mae'r argae anferth a adeiladwyd ar draws y Nilus, er cronni y dŵr a chael mwydiad helaethach i dir cynyrchiol y wlad drwy orlifiad, wedi codi'r dŵr i uchder mawr yn y lle hwn. Ar y tir gyferbyn a'r ynys y mae amddiffynfa Syené; ac ar Elephantiné ei hun y mae hen amddiffynfa y bu ei harfau am lawer oes yn gwarchod trafnidiaeth yr afon. Yn 1901, tarawodd Dr. Sayce ar rol o bapur yn dwyn ysgrifen mewn Aramaeg; ac yn fuan ar ol hynny darganfuwyd nifer liosog o ysgrifau cyffelyb a gynhwysent gytundebau cyfreithiol o lawer math rhwng Iddewon a'u cymdogion yn Assouan ac Elephantiné. Yr enwau Iddewig, megis Hosea, Nathan, Haggai, Isaiah, Azariah, sydd mewn rhan yn arwyddo i ba genedl y perthynai y bobl; ac nid hollol ddibwys yw tystiolaeth un o'r papyri sydd yn cofnodi benthyciad arian a chytundeb ynglŷn â thaliad llog. Y mae teulu Jacob wedi arfer llwyddo mewn gwaith fel hwn; ond y mae un dystiolaeth arall i brofi mai Iddewon oeddynt. Sonnir am dy Yahu (Jehovah), ac allor ar yr hon yr offrymid aberthau. Ysgrifennwyd y cytundebau o dan deyrnasiad Xerxes (485-464 c.c.), Artaxerxes,