Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crefydd. "A hwy a ddarllenasant yn eglur (h.y., gyda dehongliad) yn y llyfr yng nghyfraith Dduw; gan osod allan y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen" (Nehem. viii. 8). Dyna oedd sefyllfa pethau yn Jerusalem yn y dyddiau hynny. Ai disgynyddion yr Iddewon a ffoisant i'r Aifft ar ol dyddiau y gaethglud Fabilonaidd oeddynt? Tua 597 c.c. dinistriodd y Caldeaid Jerusalem; a chymerwyd gor- euon y wlad i Babilon. Yr oedd Eseciel y proffwyd yno gyda hwynt. Ar y gweddill. a adawyd gosodwyd Zedeciah yn frenin, a bu yntau yn ddigon ffol i wrthryfela. Lladdwyd ef. Dinistriwyd Jerusalem; a ffodd yr Iddewon a drigent o fewn terfynau Judah i'r Aifft, a gorfodwyd y proffwyd Jeremiah i'w dilyn yno (Jerem. xliii. v.). Ai rhan o'r deg llwyth oeddynt, neu Samariaid a honnent, fel y cyfeiria Josephus at rai (Ant. xi. 8, 9) mai Iddewon oeddynt Ni allwn ateb, a'n dyddordeb mwyaf yn yr hanes yw y ffaith fod teml i Jehovah y tu allan i Jerusalem. Gwaherddid hynny o ddyddiau Hezeciah; ond gwyddom, yn awr, am dair o honynt; sef hon, yr un ar Gerizim, a theml Onias. yn yr Aifft. Y mae Esaiah (xix. 19) fel pe bai yn cyfeirio at un o'r temlau. "Y