Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd hwnnw y bydd allor i'r Arglwydd ynghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi." Dywed Malachi hefyd wirionedd sy'n dod i'n meddwl wrth ymdrin â hanes yr Iddewon hyn—"Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y cenhedloedd: ac ym mhob lle arogldarth a offrymir i'm henw, ac offrwm. pur, canys mawr fydd fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd" (i. 11). Yr oedd Iddewon yn yr Aifft cyn dyddiau'r gaethglud, fel y gwelir oddiwrth Hosea ix. 3, &c.

Llyfr ar bapyrus, sydd yn hynod ar lawer cyfrif, ydyw yr un a adnabyddir fel Llyfr y Meirw. Ceir llawer o gopiau a rhannau o hwn yn yr hen feddau; ac y mae'r goleuni a rydd ar syniadau'r Aifftiaid am y sefyllfa ddieithr y tu hwnt i wahanlen y ddeufyd yn hynod o ddyddorol. Ni fu pobl erioed yn rhoddi cymaint o le i'r bedd, yn eu bywyd, a thrigolion gwlad y Nilus. O'i gwmpas y datblygodd eu celfyddydau mwyaf cain. mewn cerfwaith ac arluniaeth. Credent mor gryf mewn anfarwoldeb fel y galwent y bedd yn dŷ y tragwyddol, ac ni roddent amgenach enw ar eu tai na llety y teith-