Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ionogol o'i fewn; a chyda disgwyliad am ddarganfod llawer o lenyddiaeth foreol y cychwynnodd y Proffeswr Flinders Petrie gloddio yno yn 1896. Gwelodd mai dinas ydoedd fu mewn bri mawr pan oedd y Rhufeiniaid yn feistri ar y wlad, a throsglwyddodd y gwaith i Mr. B. P. Grenfell, D.Litt., M.A., a Mr. Arthur S. Hunt, D.Litt., M.A., dau o ysgolheigion Rhydychen. Yn nhomennau'r lle darganfuwyd llawer iawn o bapyri; ac mewn mynwent berthynol i gyfnod Groeg a Rhufain, tarawyd ar sypyn o gyfrifon ariannol yn perthyn i'r ail ganrif. Y mae'r adfeilion yn ymyl darn o ddaear fras yn yr anialwch. Dyna a ddenodd bobl yn y gwahanol gyfnodau i wneud cartref yn Oxyrhynchus; ond gan fod lladron y diffeithwch yn dyfod yn aml dan len y nos i gipio eiddo y rhai a amaethent y tir glas, gadawai'r trigolion y lle, gan geisio Ille nad oedd raid iddynt fod a'u cleddyfau yn eu llaw o hyd i amddiffyn eu hanifeiliaid a'u hŷd. Ymosododd y Bedawin o'r anialwch ar wersyll Dr. Grenfell ar adeg yr ymchwil gyntaf yn y lle yn 1897.

Yn fuan wedi dechreu cloddio daethpwyd o hyd i chwe phennod o weithiau'r hanesydd Thucydides o Athen (465-400