Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

c.c.); a phan yr oedd Dr. Hunt yn edrych. drwy y papur—frwyn disgynnodd ei lygad ar y gair Karphos—a gyfieithir brycheuyn; a meddyliodd ar unwaith am yr adnodau ym Math. vii. a mannau ereill sydd yn cynnwys y gair. Ac wedi sylwi yn fanylach gwelodd mai geiriau'r Arglwydd Iesu, fel y cofnodir hwynt yn Luc vi. 42, oeddent; ond yr oedd y rhan arall o'r ysgrif yn wahanol i'r Efengylau, a phenderfynodd fod yn ei law gasgliad o ddywediadau Crist na chroniclir mo honynt, i gyd, yn yr Ysgrythyr, Cynhwysa'r ysgrif ddwy ochr i ddalen, ac un linell ar hugain o ysgrifen ar bob tu. Adnabyddir yr hyn a ddarganfuwyd, heddyw, fel y Logia. Trannoeth, a Dr. Hunt yn ymchwilio ymysg y darganfyddiadau, cafodd ddarn o'r bennod gyntaf o'r Efengyl yn ol Mathew. Yn ol y llawysgrif o'r dywediadau ei hun, a darnau ereill o bapyri sydd yn dwyn dyddiadau, credir fod y Logia a'r gyfran o'r Efengyl yn perthyn i'r cyfnod rhwng 150 a 300 0.c.; ac os felly y maent yn ol pob tebyg yn ganrif hŷn nag unrhyw ysgrif sydd ar gael o'r Ysgrythyrau. Y mae Dr. Grenfell o'r farn eu bod yn eiddo i rywun a fu farw yn yr erledigaeth