o dan Diocletian; ac iddynt gael eu taflu i ffwrdd yr adeg honno. Y mae'r dywediad cyntaf yr un a rhan o Luc vi. 42.
i. Yna y gweli yn eglur i dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Rhoddwn yma y dywediadau ereill,—
ii. Yr Iesu a ddywed, Oddieithr i chwi ymprydio i'r byd, nis gellwch mewn un modd gael teyrnas Dduw; ac oddieithr i chwi wneuthur y Sabbath yn Sabbath gwirioneddol, ni chewch weled y Tad.
iii. Yr Iesu a ddywed,—Mi a sefais ynghanol y byd, ac yn y cnawd y'm gwelwyd gan— ddynt, a chefais bawb dynion yn feddw, ac ni chefais neb yn sychedig yr eu mysg. a'm henaid sydd yn galaru dros feibion dynion, o herwydd eu bod yn ddall yn eu calon ac ni welant. .
iv. .Tlodi.
v. Yr Iesu a ddywed—Pa le bynnag y mae (dau), nid ydyat heb Dduw, a pha le bynnag y mao un yn unig, yr wyf yn dywedyd, yr wyf fi gydag ef. Cyfod y garreg ac yno ti a'm cei i; hollta y cood ac yno yr wyf fi.
vi. Yr Iesu a ddywed.—Nid yw proffwyd yn dderbyniol yn ei wlad ei hun, ac nid yw meddyg ychwaith yn gweithio iachad ar y sawl a'i hadnabyddant.
vii. Yr Iesu a ddywed,—Dinas a adeiladwyd ar ben bryn uchel ac a gadarnhawyd ni all