syrthio ac ni ellir ychwaith ei chuddio. viii. Yr Iesu a ddywed,—Ti a glywi ag un glust, (eithr y llall ti a'i ceuaist).
Y mae'r geiriau hyn a briodolir i'r Arglwydd yn gyson â'i ddysgeidiaeth; ac o'r un naws a'i ysbryd. Yn hyn, nid ydynt yn debyg i'r geiriau a'r gweithredoedd a gysylltir â'r enw gogoneddus yn yr Efengylau Apocryffaidd. Dywed Papias, —esgob Hierapolis yn Phrygia Leiaf, yr hwn a anwyd yn niwedd y ganrif gyntaf ar ol Crist—i Mathew ysgrifennu llyfr o ddywediadau'r Arglwydd, mewn Aramaeg, a chymerir yn ganiataol nad yr Efengyl sydd yn dwyn ei enw ydyw. Ai at y Logia y cyfeiria? Feallai y cryfha'r goleu ar y cwestiwn rywbryd. Bu llawer o esbonio ar frawddeg ola'r pumed dywediad; ond nis gwelwn fod Île i ddau feddwl ar y cwestiwn. Onid cyfeiriad at wr yn codi allor ac yn darpar y tanwydd sydd yno fel ffigiwr? Yn gyson â'r hyn a geir yn y rhan gyntaf o'r dywediad, gwelwn fod y gwrandawr lle bynnag mae'r gweddiwr. Fe ddywedodd Edward Jones, Maesyplwm, wirionedd tebyg,—
"Clyw f'enaid tlawd, mae gennyt Dad
Sy'n gwel'd dy fwriad gwan,
A brawd yn eiriol yn y nef
Cyn codi'th lef i'r lan."