Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth y gwrandawr ei Hun ymhellach pan ddywedodd, "A bydd cyn galw o honynt i mi ateb," &c. Wedi cael o honynt y copiau hyn gosodwyd cant a deg o ddynion i gloddio, a tharawyd ar gynifer o ysgrifau fel y cadwyd dau ddyn mewn llawn gwaith am ddeg wythnos er gwneud blychau alcan i'w cynnwys.

Darganfuwyd papur—frwyn Aramaeg perthynol i'r wythfed a'r nawfed ganrif, ynghyd a llawer iawn o gyfnod ymherodraeth Caercystenyn (395—1453). Yng nghofnodfa tref a dinas cedwid pob gweithred ynglŷn â llywodraethiad a threthiad gwlad; a danfonai pobl y lle ysgrifau i'w cadw yn ddiogel yno. Deuai adeg pan nad oedd eisieu'r gweithredoedd. Yr oedd eu dydd drosodd; ac yna teflid hwynt allan i domen y ddinas; ac yn anffortunus y mae dynion am wneud yr hyn sydd yn ddiwerth iddynt hwy yn ddifudd i ereill drwy eu rhwygo yn ddarnau wrth eu taflu ymaith. Mawrth 18, 1897, tarawyd ar dwmpath oedd ymron drwyddo yn gynhwysedig o ysgrifau y papyri. Llanwyd y dydd a enwyd un basgedaid ar bymtheg ar hugain â hwynt, a thrannoeth cafwyd llond pump ar hugain; ac