Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd ynddynt roliau deg troedfedd o hyd. Cafwyd hefyd rannau o gyfieithiad y Deg a Thrigain o Lyfr Genesis, cyfran o'r Epistol at yr Hebreaid, a nifer o weithiau'r tadau.

Cyn agos gorffen cloddio yr Oxyrhynchus symudwyd Dr. Grenfell i dalaeth Fayûm ar yr ochr orllewinol i'r Nilus. Darganfuwyd papyri yno yn 1778; ac yn 1878, daeth y brodorion o hyd i roliau. lawer o hono yn yr adfeilion, a thra yr oedd yn bosibl cael marchnad barod. iddynt cloddiwyd yn ddiatal; ac yn 1895-6, megis ar yr unfed awr ar ddeg, y dechreuodd Dr. Grenfell a'i gymdeithion gloddio mewn trefn o dan nawdd yr Egypt Exploration Fund. Yn y dalaeth. hon, sydd yn enwog am ei ffigys a'i rhosynau, ceir olion peirianwaith er rheoli dyfroedd llyn ac afon: ac mor anhywaith oedd y galluoedd hyn ar brydiau fel y bur raid i'r trigolion ffoi o rannau o'r wlad. Yn ysgrifau Fayûm ceir llawer iawn of dderbynebau am drethoedd; a gallem gasglu oddiwrth yr amrywiaeth fod pawb a phopeth yn gwybod am bwysau'r dreth.

A chyfrol ddyddorol Dr. Grenfell, Dr. Hunt, a Mr. Hogarth o'n blaen, dyfynwn ychydig. Dyma rybudd a ddanfonwyd