Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

alltudio am ysbaid o'r ddinas. Rhoddid y bleidlais ar ddarn o lestr toredig neu gragen; ac yn y modd hwn cafodd Athen waredigaeth am bump a deng mlynedd. oddiwrth ormeswyr. Un o'r rhai a alltudiwyd oedd Themistocles, y gŵr a orchfygodd y Persiaid yn Salamis. Tybiai yr Atheniaid ei fod, er wedi amddiffyn ei wlad gyda gwroldeb, yn gosod ei law mewn coffrau na ddylasai; ac yn 471 cyn Crist, taflwyd dros chwe mil (y nifer gofynnol) o ddarnau o briddlestr neu gregyn yn dwyn ei enw i flwch y bleidlais; a than y cwmwl aeth Themistocles i drigo i Argos.

Darn o lestr oedd cragen Job (ii. 8); ac at hyn y cyfeiria Esaiah pan y dywed,— "Canys Efe a'i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymeryd tân o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffos (xxx. 14). Defnyddia Eseciel y darn of lestr hefyd,—"Canys ti a yfi ac a sugni o hono; drylli hefyd ei ddarnau ef " (xxiii. 34). Gweler hefyd am gyfeiriadau pellach. Job xli. 30 a Diarhebion xxvi. 23. Cyfeiria Deissman at Esaiah xlv. 9,—"Ymrysoned priddell a phriddellau y ddaear."

Darganfuwyd miloedd o honynt yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ac y maent