Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ein dwyn yn ol i gael golwg ar bobl gyffredin—fel y dywedodd un—yn eu dillad gwaith; a rhaid cofio mai o fysg y werin bobl yr oedd mwyafrif canlynwyr Crist yn oesoedd boreuaf ein crefydd. Cyhoeddodd yr Athraw Wilcken gopi o 1,600 o honynt, ac yn y gyfrol ar ddarganfyddiadau Fayûm cawn gofnodiad am 50 eraill. Gwnaed gwasanaeth pwysig fel hyn o'r fowlen uwd a lithrodd o law'r Aifftiwr ar adeg swper. Gwnaed defnydd o'r ysten olew a'r badell dylino; ac y mae'r ysgrifau arnynt yn dangos i ni ystyr geiriau fel y deallid ac y defnyddid hwynt yn iaith gyffredin y bobl.

Ar un cawn ymddiheuriad dros ddefnyddio darn o lestr. Y mae'r ysgrifennydd yn y wlad ac o gyrraedd papurfrwyn, ac esgusoda ei hun.

Ar lawer ceir darnau byrion o'r Efengylau, yn enwedig y drydedd—eiddo Luc. Tybia rhai y byddai'r llestri pridd. yn gwasanaethu dychymyg y bobl fel swynogl rhag dylanwad ysbrydion drwg. Barn Deissman yw mai copi rhad o ran o'r Ysgrythyr yw, neu rannanu a ysgrifenwyd drwy orchymyn yr esgob gan wr ieuanc oedd yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Ar y llestri yr ysgrifennid talebau gan yr