Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oliaeth; ond rhyfedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy!

Bywyd a'r byd wedi ei gau allan o hono oedd i orchfygu'r byd. Hen fyd da ydyw hwn mewn rhai ystyron; ond gwelai Abraham yr esgob mai gwell oedd cadw traed ei drafnidiaeth y tu allan i ddrws ysbryd a ymroddai i weddi a gweinidogaeth y Gair.

Darganfuwyd nifer o briddlestri gan Dr. Sayce, yn 1901, yn Elephantine; a dwg y rhai hyn, sydd yn awr yn drysoredig yn Rhydychen, dystiolaeth fod Iddewon wedi byw unwaith ar yr ynys. Pa werth sydd yn y darnau hyn?

Llawer ymhob rhyw fodd. Clywir yr oesoedd a fu yn siarad pethau dyddiol bywyd. Ceir geiriau mewn amgylchedd oedd yn arferol iddynt yn ymddiddanion y werin, ac felly deallir hwy yn well. Yn enwedig y mae hyn yn bwysig ynglyn â geiriau nad arferir o honynt ond unwaith neu ddwy waith o fewn i gloriau'r Beibl. Gwyddom fod llawer o eiriau'r Testament Newydd yn ail-anedig. Paganiaid oeddynt, ac ar dudalennau'r clasuron y bu eu llwybrau. Benthyciwyd hwynt i osod allan feddyliau'r grefydd newydd, a daethant yn