Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gristionogion. Un o'r rhai hyn ydyw "eglwys," ac un arall ydyw "cariad."

Yn y byd Groegaidd, pan oedd yr apostolion yn llafurio, cawn sefydliad a elwid yn Eglwys. Dyna oedd "cynulleidfa gyfreithlawn" Ephesus. Dyna'r enw ar y "gynulleidfa oedd yn gymysg," hefyd, yn yr un ddinas. Ar ol i Paul lefaru yn hyf ac ymresymu am dri mis yn y Synagog, ac am ysbaid dwy flynedd yn nhy Tyrannus, a gwneud gwyrthiau rhagorol, aeth bywyd canlynwyr yr Hwn a bregethai yr apostol ar draws y fasnach mewn temlau arian i Diana. Arweiniodd Demetrius mewn cyffro mawr yn erbyn Paul. Daeth "cynulleidfa oedd yn gymysg" ynghyd, ac yr oedd arwyddion fod tymhestl nwydwyllt i ymdorri. Peth mawr yw gwrthwynebu pethau sydd yn dwyn elw i ddynion. Yn ilogell y byd y mae'r amddiffynfa yr ymleddir galetaf am dani, pan ymesyd y gelyn. Maer dinas Ephesus a lonyddodd y bobl. Dywedodd wrthynt fod y llysoedd barn yn agored, a chynrychiolwyr Rhufain yno i ddal y cloriannau. Os oedd y bobl am ymholi ymhellach, ebe fe, gall y prif ynad alw cynulleidfa gyfreithlawn. Y gair am eglwys yn y Testament Newydd yw'r gair a ddefnyddir yn Actau xix.