Ni chollwyd y plentyn ynddo i'r diwedd. Pwy yn fwy derbyniol ar aelwydydd Maldwyn nag ef? Onid oedd pobl ieuainc yn ei ystyried yn gamp i'w guro wrth y bwrdd draughts? mor naturiol iach a oedd ynddo yn help, nid yn unig i ddiogelu ieuengrwydd ei ysbryd ef ei hun, ond hefyd i ddenu'r ieuainc ato ef ac i'w alluogi yntau i fyned i'w byd hwy. Hynny'n ddiau a gyfrif fod ei anerchiadau i'r ieuaine Bu'r hiwmor fyw a phwrpasol.
Ar Lwybrau Galwedigaeth:
Dilyn galwedigaeth ei hynafiaid a wnaeth yntau, fel y gwnâi'r mwyafrif o fechgyn ieuaine ei gyfnod, oblegid gorfod amgylchiadau. "Pobl gyffredin yw ein teulu ni wedi bod er cyn cof. Coledd y ddaear a thrin anifeiliaid fu moddion bywioliaeth pob un o'm hynafiaid y gwn i amdano. Ni farchogodd yr un ohonynt yn yr ail gerbyd heb sôn am y cyntaf, ac ni chyrhaeddodd neb ohonynt chwaith gyflawn aelodaeth' ymhlith y gwehilion."
Dengys ei holl hanes fod ei afiaith i gyfeiriad arall, ond os mater o ddyletswydd yn hytrach nag o hyfrydwch oedd cyflawni gorchwylion fferm iddo ef, cyflawnai'r cwbl yn gydwybodol gyda'r Ilwyredd a'r trefnusrwydd a nodweddai ei holl waith. Tystia rhai o'i hen gymdogion sydd eto'n fyw mai'r Hendre fyddai ar y blaen gyda gorchwylion pob tymor,—y meysydd wedi eu haredig yn gynnar, y cynhaeaf yn ei bryd, y gwrychoedd yn dangos İlwyredd gofal, digon o fawn wedi ei gasglu at y gaeaf, a graen digonedd ar bob anifail.
Llafuriodd yn ddyfal a chaled a diesgeulus gyda gwaith y fferm ar hyd y blynyddoedd, gan fanteisio ar bob awr hamdden ac egwyl i ddarllen a dilyn ei afiaeth.
Ymneilltuodd o'r Hendre yn 1914, ac aeth i fyw at ei chwaer i Fangor, Sir Gaernarfon. Yno, ysgrifennodd rai o'i atgofion, a chyfeiriodd ynddynt at ei lafurwaith ar y fferm. Bywyd llafurus yr amaethwr bychan a fu fy rhan i o'r dechreuad hyd yn ddiweddar iawn. Treuliais filoedd o ddyddiau mewn caledwaith yn cau a chloddio, aredig a llyfnu, torri gwair ac ŷd a rhedyn, cario mawn a chalch a chynhaeaf, dyrnu a nithio, porthi'r da a bugeilio'r defaid. Ond oherwydd llesgedd a gofidiau eraill, gwelwn na allwn ddal y penffestr a gyrru ychain i drin cwysau a chwedleua am fustachiaid,' felly rhoddais y gorau i'r hen fywyd ar Wyl Mihangel 1914, ac ymneilltuais o drafferthion a mwynderau y cwm anghysbell i unigrwydd y dref boblog."
Ar Lwybrau Hanesiaeth:
Diau mai fel hanesydd, ac yn arbennig fel dehonglydd Llawysgrifau Trefeca, y sonnir amdano yn y dyfodol. Yr oedd ganddo