Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

droeon caredicaf Rhagluniaeth oedd peidio â'i anfon," ebe'r Parch. Stephen O. Tudor, "nid am y gallwn ddychmygu amdano ef byth yn sych fel dwst llif." Ei berygl ef yn hytrach fuasai ei gloi ei hun yn un o gelloedd y canol-oesoedd neu dreulio ei athrylith ddisglair ymysg hieroglyffiaid yr Aifft. Ac erch o beth fuasai hynny, a maes mwy buddiol a chyfoethog yn disgwyl am dano—maes y buasai coleg, o bosibl, yn ei anghymwyso i weithio ynddo."

Byr fu ei dymor ysgol oblegid yr angen am ei wasanaeth ar y fferm gartref. Efallai hefyd fod rheswm arall ynghudd ym mynwes y fam. Bu iddi hi dri o frodyr, a brentisiwyd mewn gwahanol alwedigaethau. Gwelsai y tri yn dyfod adref i'r Hendre, y naill ar ôl y llall, i farw ymhell cyn cyrraedd canol oed. Pa ryfedd oedd iddi benderfynu, pe caffai hi fab, y cadwai ef gartref.

Cafodd Richard Bennett ei gyfle yn yr Ysgol Sul. Yr oedd honno'n ddigon gwerinol i roddi ei gyfle i ŵr swil, od oedd yr eglwys braidd yn geidwadol. Teimlai ddiddordeb byw yn yr Ysgol Sul yn ieuanc. Ynddi y dysgodd feddwl ac ymresymu. Dilynai'r Cyfarfodydd Ysgolion yn ei dro, a gelwid arno o bryd i bryd i annerch ynddynt. Gwerthfawrogai ef y galwadau hyn, ac ar hyd ei oes teimlai gryn lawer o gariad at y lleoedd hynny a roddodd gyfle iddo yn nydd y pethau bychain. Ymhyfrydai yng ngwaith yr Ysgol Sul, a bu'n ffyddlon iddi ac yn ddefnyddiol ynddi hyd y diwedd.

Wrth gyfeirio at ddylanwadau bore oes Mr. Richard Bennett, ysgrifenna Mr. Edward Jones, Y Castell, Llanrhaiadr, yn ddiddorol a chryno,—"Cafodd yn Llanbrynmair awyrgylch fanteisiol i gychwyn; Mynyddog yn anterth ei boblogrwydd, a Thafolog a Derwenog am y ffin. Credaf mai elfen gyntaf ei ddiwylliant oedd awyrgylch ei fro ac edmygedd o'i harwyr. Wrth ddarllen ei Feibl a dysgu emynau y cafodd ei ddiwinyddiaeth a'i ddefosiwn. Gloywodd iaith llafar gwlad wrth ddysgu adnodau a barddoniaeth. Agorwyd ei lygaid ar gwrs y byd gan Thomas Gee yn y Faner, a John Gibson yn y Cambrian News."

O adolygu hanes ei ieuenctid, gwelir mai ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd ef ei hun a gyfrannodd fwyaf i'w ddatblygiad meddyliol. Manteisiodd ar ei gyfleusterau prin yn wyneb pob anhawster, ac enillodd y fath awdurdod ym myd meddwl hyd oni chydnabydid ei fod yn ysgolhaig gwych." Gwnaeth y gorau hefyd o'r cyfryngau sy'n meithrin ac yn gloywi cymeriad, a pherchid ef yn nyddiau ei ieuenctid yn gymaint am ei dduwioldeb ag am ei ddoniau. Eto, nid un yn hen cyn ei amser" ydoedd, ac nid y math sych sobr hwnnw ar dduwioldeb a geidw eraill draw oedd yr eiddo ef. Ni bu heb y nwyf a'r chwarae sydd yn nodweddu plentyndod," ebe'r Parch. Eurfyl Jones. "Yn wir, daeth y chwareus a'r direidus yn elfennau amlwg yn ei dduwioldeb. Medrai chwarae â geiriau hyd yn oed wrth ddweud ei brofiad.