"Ni'm blinir mwy gan bryd hau a phryd medi; y mae dydd yr hen gwynion ar ben. Ond gwrthyd y meddwl weithian gymryd ei ran o'r seibiant, a chymer wibdaith yn ôl i'r hen fro a'r hen fywyd, gan erchi i'r cof a'r dychymyg oleuo a goreuro ambell lannerch ymadawedig, fel y medrant hwy wneud. Un o'r cyfryw yw aelwyd fy maboed ar hirnos gaeaf, pan oeddwn i a'r byd yn hoyw, a chyn i leferydd tad a mam a thaid a nain ddistewi. Ysywaeth, ni fedraf drosglwyddo'r weledigaeth i ysgrifen-dim ond ei mwynhau rhyngof â mi fy hun."
Mewn llyfr a chapel, mewn cofnodi testunau a phregethau, yr ymhyfrydai ef yn ieuanc iawn. Enillodd ei Feibl cyntaf am ddysgu'r "Hyfforddwr," a hynny cyn iddo gyrraedd ei ddeuddeng mlwydd oed. Disgwyliai'n eiddgar am Drysorfa'r Plant" bob mis, a chwanegai at ei wybodaeth o'r Ysgrythur trwy ymroddi i ateb y Tasgau a'r Cwestiynau. "Enillodd bachgen o'r Pennant," eb ef, a chyfeirio'n swil ato'i hun, y wobr gyntaf wrth ateb y Cwestiynau Gwobrwyedig yn 1875, a'r wobr olaf yn 1876,—arwydd ei fod wedi pasio'r penllanw yn ei hanes ef ei hun."
Yn ei "Atgofion am 1865-1895," a baratôdd ar gyfer Cym- deithas Lenyddol y Pennant, ceir cipolwg ar gyflwr llenyddol yr ardal pan oedd ef yn ieuanc. Cwyna nad oedd na Chymanfa Ysgolion nac Eisteddfod o fewn cyrraedd. Ond tua 1869-70, trefnwyd cyfres o "Penny Readings
"Penny Readings" i ddarllen ac adrodd, dadlau a chanu; ac yn 1873, sefydlwyd " Urdd y Temlwyr Da yno. Cafodd y gymdeithas hon lawer o wrthwynebiad yn yr ardal, ond profodd yn gyfrwng bendith i'r ieuainc. "Enillasom ddigon o hyder trwy ymarfer, i fedru wynebu cynulleidfa heb grynu, a gloywodd ein doniau ryw ychydig wrth eu mynych hogi. Aeth tri neu bedwar ohonom i gynorthwyo forsooth mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Dylife, a phob un dan bymtheng mlwydd oed." Byddai'n rhigymu hefyd yn bur ieuanc. Ymddangosodd dwy ganig o'i waith yn y Frythones." "Anaml y cawn gystal cynnyrch gan un mor ieuanc," ebe'r Olygyddes, Cranogwen.
Er y dywedai ef mai gŵr o dymer freuddwydiol a fu ef erioed, dengys ei ymroddiad ei fod yn llawn asbri ac yn ymdrechgar i fanteisio ar bob cyfle a chyfrwng i'w ddiwyllio ei hun. A da hynny, oblegid ychydig o gyfleusterau addysg a gafodd ef, fel y rhelyw o blant y dyddiau hynny. Heblaw hyfforddiant aelwyd ac ysgol bentref, bu am ychydig amser mewn ysgol yn Llanidloes, ac yna, ar awgrym y Parch. J. Foulkes Jones, anfonwyd ef i Ysgol Joseph Owen ym Machynlleth. Yr oedd yno'n gyd- ddisgybl â'r Parchn. W. Sylvanus Jones a Maurice Griffith. Er cystal dynion a hyfforddwyd yn yr ysgol hon, yr oedd yntau ymhlith y rhai blaenaf.
Beth fuasai ei hanes pe cawsai addysg coleg? Dichon yr eisteddasai yng nghadair Hanes un o'r prif golegau. "Ond un o