Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bymthegfed ganrif. Rhoddes y brenin fuddiannau tymhorol yr esgobaeth iddo yn 1408, a chroniclir iddo farw yn Nhyddewi yn 1433. Y mae Nicholas Bennett yn enw rheolaidd yn y teulu ers canrifoedd. Yn 1628, prynodd un Nicholas Bennett ddarn o dir sydd yn rhan o fferm Glanyrafon, Llawryglyn, ac yr oedd tad Mr. Richrad Bennett yn ddisgynnydd union o hwnnw.

Edward Bennett oedd enw ei dad. Perthynai ef i'r gangen o'r teulu a ymsefydlasai yng Nghilhaul, Trefeglwys, er mai yn y Derwllwydion, Llawryglyn, yr ymgartrefasai ei rieni. Cymeriad hawddgar a diddan ydoedd. Yr oedd bob amser yn fawr ei ofal am gysur gwas ac anifail, ac iddo air da gan gyfeillion a gwasanaethyddion. Cawsai ef well addysg na'r mwyafrif o'i gyfoedion, ac ar ei ofyn ef y deuent hwy i sgrifennu ewyllys neu lythyr yn Saesneg. Derbyniai ef newyddiadur Saesneg yn gymharol gynnar, ac ymddiddorai ym mhynciau'r dydd. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog, a heb achos ofni datgan ei argyhoeddiadau, oblegid nid oedd efe tan orthrwm meistr tir fel y mwyafrif o'i gymdogion.

Jane Richards oedd enw morwynol ei fam. Un o'r Lumleyaid, Dolcorslwyn ac Esgairangell, plwyf Mallwyd, oedd hi. Yr oedd yn berthynas i'r pregethwr enwog Richard Lumley. Adwaenid hi fel gwraig o gyneddfau cryfion, yn arbennig o gyflym ei deall a byw ei harabedd. Medrai symio cymeriad neu ddigwyddiad mewn brawddeg gyrhaeddgar gofiadwy. Yn ei chartref hi yn yr Hendre, Cwm Pennant, Llanbrynmair, yr ymgartrefodd ei phriod a hithau ar eu priodas. Ac yno y ganwyd Richard Bennett ar yr 21ain o Fedi 1860.

Ar Lwybrau Ieuenctid:

Saif yr Hendre yn nhawelwch llawr Cwm Pennant. O drothwy'r tŷ, gwelir Creigiau Pennant yn codi'n syth ar y naill du, a llethrau Moel Trannon yn codi'n gyflym ar y llall. Yn gymhleth â theimlo hyfrydwch yn swyn a phrydferthwch Natur ar y gwastadedd, daw hyd yn oed i'r gwibdeithiwr ryw arswyd a dry'n ostyngeiddrwydd wrth syllu ar fawredd ac aruthredd y mynyddoedd cwmpasog. Pa faint mwy dylanwad y fath olyg- feydd rhamantus. ar fywyd un a fagwyd yn eu canol! Pwy a all fesur eu dylanwad ar enaid sensitive fel yr eiddo Richard Bennett ? Oni adlewyrchid tawelwch ei fro enedigol yn ei ledneisrwydd mwyn ef, a sefydlogrwydd ei bryniau yng nghadernid ei gymeriad?

Ond pa faint bynnag a ddylanwadodd amgylchedd ei gartref arno, nid oes amheuaeth am ddylanwad awyrgylch y cartref ei hun. Wedi iddo ymneilltuo o'i alwedigaeth a symud i Fangor, mynega ei deimlad yn y geiriau hyn a sgrifennodd yn 1915,—