YSGRIF GOFFA
"Y dyn a gaffo enw da
A gaiff gan bawb oi goffa."
R ydym yn claddu heddiw un o'r dynion mwyaf athrylith- gar a gododd Sir Drefaldwyn yn y ganrif ddiwethaf." ebe un a'i hadwaenai'n dda am Mr. Richard Bennett ar ddydd ei angladd.
Ni all na chytuna pawb o gymnesur ddawn i farnu â chywirdeb y dystiolaeth hon. Nid oedd ond un Richard Bennett, a chreodd yn ei fywyd y fath gylch o gyfeillgarwch a gwasanaeth fel nad oes heddiw a'i lleinw fel efe. Ar bwys ei gymeriad pur a diragrith, ei gyfeillgarwch cywir a didwyll, a'i wasanaeth arbennig a gwerth- fawr i lên hanes ac i'w Gyfundeb, enillodd le dwfn yn serch ei gydnabod a chafodd barch ac anrhydedd gan awdurdodau dysg a chrefydd ein gwlad. Er mai arweddion gwladwr syml oedd i'w fywyd, cysegrodd a datblygodd ei ddoniau a'i alluoedd arbennig i'r fath raddau nes cynhyrchu gwaith a gymhellodd Brifysgol Cymru i'w anrhydeddu â'r radd o Athro yn y Celfydd- ydau. "Nid oeddwn yn ei chwennych," meddai ef," ond nid wyf yn ei dibrisio wedi ei chael.
Profir cymaint y parch sydd i'w goffadwriaeth gan y dymuno mewn llawer cylch am ryw fath ar gyfrol goffa iddo. Ymgymerodd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf, y bu ef yn aelod ohoni am dros hanner can mlynedd, ag ateb y dymuniad trwy gyhoeddi'r gyfrol fechan hon. Yn yr ysgrif hon rhoddir braslun o'i yrfa, ei waith, a'i gymeriad, gan loffa o'r ysgrifau coffa a ymddangosodd yn y cyfnodolion, a chan ddyfynnu o'i lawysgrifau a'i lythyrau ddarnau o'i atgofion personol. Wrth ddarllen y darnau anghysylltiol hyn, gresynwn nad ysgrifenasai Mr. Bennett ei atgofion yn fanwl a chyson, oblegid trwy hynny ceid cyfrol ddiddorol o "Hunan- gofiant a gyfoethogai lenyddiaeth ein gwlad.
Ei Dras:
Yr oedd hynafiaid Mr. Bennett â'u gwreiddiau yn ddwfn yn naear Cyfeiliog ac Arwystli. Ymsefydlasai'r Bennettiaid ers canrifoedd ym Maldwyn. Tybiai Mr. Bennett ei hun eu bod yn ddisgynyddion o'r mynachod Benedictaidd. Gwyddys i lawer o'r rheini ddilyn esiampl Martin Luther ar ôl y Diwygiad Protestannaidd a phriodi a sefydlu cartrefi iddynt hwy eu hunain. Ceir bod un o'r enw Benedict Nicholls (neu Nicholas Bennett, fel yr ysgrifennid ei enw weithiau) yn esgob ym Mangor yn gynnar yn y