Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR




Wedi marw Mr. Richard Bennett, datganodd Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf ei hawydd i ddiogelu'r llawysgrifau o'i waith a oedd o ddiddordeb arbennig i'r Henaduriaeth a'i heglwysi. Trwy garedigrwydd ei chwaer, Mrs. Hughes, a chynorthwy Mr. Richard Jones, Pertheirin, trosglwyddwyd y cyfryw lawysgrifau i ofal yr Henaduriaeth, gyda chaniatâd i'w diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol trwy gyfrwng Cymdeithas Hanes y Cyfundeb. Yn wyneb awydd pellach i gadw coffadwriaeth Mr. Bennett yn fyw, ymgymerodd yr Henaduriaeth â chyhoeddi'r gyfrol fechan hon. Cynhwysir ynddi nifer o'i anerchiadau a'i ysgrifau, ac enghraifft o'i ddawn fel prydydd. Nis cyhoeddwyd hwy o'r blaen. Ni fwriedir i'r ysgrifau hyn fod yn enghreifftiau o'i ysgolheictod fel hanesydd. Yn hytrach, cyfyngwyd y dethol i'r hyn a fyddai o fudd ac o foddhad i'r werin—y werin a garai ef mor fawr ac y bu ef yn fab mor anrhydeddus ohoni.

D. TEIFIGAR DAVIES,
R. W. JONES,
Golygyddion.

Ionawr 1940.



NODIAD I'R AIL ARGRAFFIAD

Gwerthwyd bron y cwbl o'r argraffiad cyntaf yng nghylch yr Henaduriaeth, ac yn wyneb y galwadau lluosog o gylchoedd eraill, penderfynwyd ail argraffu.

Cywirwyd rhai gwallau a chwanegwyd nifer o ffeithiau. Ceisiwyd hefyd sicrhau unffurfiaeth yn orgraff y llyfr, eithr gadawyd rhai dyfyniadau heb eu newid.