esiampl ac yn gymwynaswr iddynt trwy lendid ei foes a gwerth ei wasanaeth. Bu'n llwyr-ymwrthodwr ar hyd ei fywyd, ni halogai ei wefusau â geiriau ofer, ac nid oedd swyn iddo mewn ysmygu. Yr oedd yn gyfaill pur, parod ei gymwynas, a'i ddynoliaeth gyfoethog a'i ledneisrwydd yn denu pawb i ymserchu ynddo.
Un yn byw i'r pethau uchaf ydoedd, yn ostyngedig, ac yn hynod o amddifad o hunan-ymffrost a hunan-hyder. Oherwydd hyn, tueddai i fod yn ddigalon weithiau. Ond praw o'i fawredd oedd hyd yn oed ei dristwch,—tristwch y sant yn methu â'i weled ei hun yn ddigon o sant. Gofidiai hefyd oherwydd prinder diddordeb y genhedlaeth hon yn hanes a thraddodiadau'r gorffennol. Disgwyliasai weled deffroad ysbrydol yn ffrwyth dathlu deucanmlwyddiant y Cyfundeb, a mawr fu ei siom. Nid oedd yn bruddglwyfus wrth natur, ond gwyddai am dristwch enaid o weled esgymuno Duw o'i le dyladwy ym mywyd dyn.
Diweddwn yr ysgrif hon gyda'r darlun cywir iawn ohono a geir yng ngeiriau un o'i gyn-weinidogion, y Parch. J. T. Jones, B.A., B.D.,—" Nid amheuai neb a adwaenai Mr. Bennett nad oedd yn Gristion yn ystyr y Testament Newydd i'r gair. Bu fyw ar lefel uchel drwy ei fywyd, a gwasanaethodd y pethau uchaf. Meddai ar brofiad diamheuol o waith gras ar ei ysbryd, a sychedai am fod yn fwy pur, ac fe âi'r Arglwydd Iesu yn uwch yn ei olwg yn barhaus. Mewn llythyr ataf, adeg dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd, fe ddatguddia beth o gyfrinach ei ysbryd, a gresyn fyddai cadw'r fath brofiad yn guddiedig."
Dymuniad fy nghalon ar fy rhan fy hun ac eraill yw ar i Iesu gael y lle gorau yn y llety; a gobeithio y cymerir pobl y Dathliad i gyd i Fynydd y Gweddnewidiad i'w weled yn ei ddillad gorau. "Ffarwel, ffarwel bob eilun mwy fyddai'r gân wedyn, oblegid diwedd stori'r mynydd hwnnw yw— Ac ni welsant neb ond yr Iesu yn unig." Gwyn fyd na wawriai'r bore . . . O! na fedyddid ni â'i ysbryd rhag inni fyned yn swp o bethau bach hunanol, na welsom erioed neb mwy na ni ein hunain. Y superiority complex yw'r mwyaf peryglus o lawer ym mywyd crefydd . . Ni bum erioed yn disgwyl mor gryf am fendith ag yr wyf yn awr. Y mae ambell adnod yn diferu brasder ar fy ysbryd, oni thwyllir fi. Dyma'r diwethaf," Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi." yw ystyr hon? Ai tybed fod yr Iesu mawr yn ystyried nad yw ei ogoneddiad yn gyflawn nes iddo'n cael ni i well adnabyddiaeth ohono? Nid rhywbeth rhwng y Personau Dwyfol a'i gilydd yn unig yw'r gogoneddiad i fod felly. Nid yw Ef yn fodlon ein cau ni allan. Bendigedig fo Ei enw byth ac yn dragywydd.'