FFYDDLONDEB I ANGHYDFFURFIAETH
TRAETHIR llawer ar y mater hwn yn y dyddiau hyn. Edrychir arno gan wahanol feddyliau o wahanol gyfeiriadau. Y peth hawsaf i mi heddiw fydd ceisio dwyn ar gof rai pethau a ddangosant ffyddlondeb ein tadau i Anghydffurfiaeth yn y dyddiau gynt a fu,' mewn hyder y gall hynny brofi yn symbyliad i ninnau gerdded yn llwybrau eu ffydd hwy.
Edrychwn yn fyr ar eu hanes mewn tri chyfnod.
1 Pan oedd Anghydffurfiaeth yn drosedd o'r gyfraith wladol.
Am gan mlynedd ystyrid Anghydffurfwyr yn y wlad hon yn criminals o'r math gwaethaf. Dangosid llai o dynerwch tuag atynt na thuag at y dyhirod tostaf. Dirwy, carchar, alltudiaeth ac angau oedd bygythiad y gyfraith arnynt. Collodd miloedd ohonynt eu bywyd, gyrrwyd myrddiynau i ffoi i wledydd tramor, bu'r carcharau yn rhy lawn ohonynt i gael lle i ladron ac ysbeilwyr, ac atafaelwyd a dinistriwyd gwerth miliynau o bunnau o'u heiddo. Gwneid hyn iddynt, nid gan y mob direol, ond gan swyddogion y llywodraeth. Yr oedd gan eu treiswyr, nid gallu yn unig, ond hefyd awdurdod cyfraith wladol ac eglwysig. Buont fwy nag unwaith yn deisyf am eu rhoddi i farwolaeth yn gyhoeddus, od oedd rhaid; a phan drengent yng nghelloedd ffiaidd y carcharau, ni chynhelid trengholiad ar eu cyrff, mwy na phe haent anifeiliaid. Rhennid eu heiddo i wehilion y bobl am ddwyn tystiolaeth, gam neu gymwys, yn eu herbyn, a gadewid eu teuluoedd i newynu neu i fyw ar elusen.
Digwyddodd pethau fel hyn yn Sir Drefaldwyn. Dinistriwyd holl eiddo Henry Williams o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd, lladdwyd yr hen ŵr ei dad, a thrwy gyfryngiad swyddog mwy tyner ar ei rhan y goddefwyd i'w wraig ddianc â'i heinioes, gan arwain ei phlant mân allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Bu Vavasor Powell o Kerry—apostol canolbarth Cymru, mewn tri-ar-ddeg o garcharau, ac yng ngharchar y Fleet yn Llundain y bu farw. Cadwyd Charles Lloyd, o Ddolobran, Meifod, ef a'i wraig ac amryw o'u cymdogion, yng ngharchar y Trallwm am ddeng mlynedd, gan eu gosod yn y celloedd isaf, lle y disgynnai holl fudreddi'r carchar, er mwyn gwneuthur bywyd yn faich iddynt.
Cofier nad y werin afreolus a wnâi bethau fel hyn, ond swyddogion llywodraeth Gristnogol Brotestannaidd Prydain Fawr. Cofier nad ymhell yn ôl yn yr oesoedd tywyll y digwyddodd hyn; nage, llai na chan mlynedd o amser cyn adeiladu capeli'r Methodistiaid yn Llanbrynmair a Llanidloes. A chofier, hefyd